Tydi, fy Arglwydd, yw fy rhan,
A doed y drygau ddêl;
Ac er bygythion uffern fawr,
Dy gariad sy dan sêl.
Oddi wrthyt rhêd, fel afon faith,
Fy nghysur yn ddi-drai;
O hwyr i foreu
fyth yn gylch,
Dy gariad sy'n parhau.
Uwch pob rhyw gariad îs y nef
Yw cariad pur fy Nuw;
Anfeidrol foroedd dyfnion maith,
Heb fesur arno, yw.
Dechreuodd draw cyn
creu y byd,
Fe bery byth yn mlaen;
Heb un cyfnewid, ac heb drai,
Pan elo'r byd yn dân.
O! deuwch, gwelwch, chwiliwch ef,
Anfeidrol gariad mawr,
Ag sydd yn maddeu miloedd myrdd
O feiau yn yr awr.
Yn para yn ffyddlon fyth heb drai,
P'odd bynag y trŷ'r byd;
A phe cymysgai'r tir a'r môr,
Yr un yw'm Duw o hyd.
rhyw gariad îs :: rhyw gysur îs deuwch, gwelwch :: de(')wch a gwelwch gwelwch, chwiliwch ef :: bawb i syllu ar Anfeidrol :: 'R anfeidrol yn yr awr :: bob yr awr Yn para yn ffyddlon fyth :: Mae'n para'n ffyddlawn byth fyth heb drai :: heb un trai P'odd bynag y trŷ'r :: Ffordd bynag try y :: Er newidiadau'r trŷ'r :: troddo'r cymysgai'r tir a'r môr :: cymmysgai tir a môr Yr un yw'm :: 'R un fyddai'n
Tonau [MC 8686]:
gwelir: |
Thou, my Lord, art my lot,
And let evils come that may come;
And despite the threats of great hell,
Thy love is under a seal.
From thee runs, like a vast river,
My comfort unebbing;
From evening until morning
forever as a circle,
Thy love continues.
Above every kind of love under heaven
Is the pure love of my God;
Vast, deep, immeasurable seas,
Without measure on it, it is.
It began long before the
creating of the world,
It will continue forever on;
Without one change, and without ebbing,
When the world goes to fire.
O come, see, seek him,
Great, immeasurable love,
Which forgives thousands of myriads
Of faults now.
Enduring faithfully forever without ebbing,
However the world turns;
And if the land and the sea should mix,
The same is my God still.
kind of love under :: kind of comfort under come, see :: come and see see, seek :: everyone to gaze on ... immeasurable :: The ... immeasurable now :: hour by hour Continuing faithful forever :: It continues faithful forever forever without ebbing :: without any ebbing However the ... turns :: However the ... turns :: Despite the changes of the :: the land and the sea should mix :: land and sea should mix The same is my :: The same would be our tr. 2010,18 Richard B Gillion |
|